James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Adroddiad Blynyddol 2022-23
Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen 

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn dosbarthu grantiau i bobl Cymru, yn ôl dymuniadau Syr D J James, sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod 2022-23, talodd yr Ymddiriedolaeth gyfanswm o 514,631 o grantiau o dan y penawdau canlynol:

Adeiladau Crefyddol   £90,000
Offer ac Adnoddau i Eglwysi   £12,250
Pwrpasau Addysgiadol (Myfyrwyr Uwchraddedig) £304,374
Eisteddfodau £  83,507
Urdd Gobaith Cymru £  24,500
  £514,631

 

Cyfrifon Blynyddol 2022-23
Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen 

Cyfanswm y derbyniadau yn ystod 2022-23 oedd £588,105. Daw'r rhan helaethaf o incwm blynyddol yr Ymddiriedolaeth o gronfa gwaddol parhaol a adolygir yn rheolaidd; gan ei bod yn gronfa gwaddol parhaol, nid yw ar gael i’w dosbarthu ar gyfer buddiolwyr. Mae'r Gronfa hon yn cynnwys amrywiaeth o ddaliadau a chyfranddaliadau, stociau llogau sefydlog, eiddo ac arian. Yn dilyn cytundeb gyda’r Rheolwyr Buddsoddi mae'r Ymddiriedolwyr yn dilyn nifer o egwyddorion buddsoddi gan weithio ar amserlen o leiaf saith mlynedd a lle mae'r risg yn ganolig. Gwerth y Gronfa hon ar ddiwedd Mawrth 2023 oedd £16,114,255.

 

Mae copi o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth ar gael i'w lawrlwytho yma
neu gellir cael copi o Swyddfa'r Ymddiriedolaeth.